Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mai 2017
Amser: 14.00 -
15.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4108
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Steve Davies, Llywodraeth Cymru Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Gareth Jones Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Mike Hedges AC fuddiant fel Llywodraethwr dwy ysgol gynradd a datganodd Neil McEvoy AC fuddiant fel cyn athro.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, a Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.
3.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Data o'r rhanbarthau sy'n dangos i ba raddau y mae gwaith ysgol i ysgol yn gweithio
· Data sy'n dangos canran y gwelliant yn y pynciau TGAU allweddol canlynol yn dilyn rhaglen Her Ysgolion Cymru
· Anfon nodyn ynghylch y defnydd o Moodle
· Anfon penawdau o'r ymweliad diweddar â'r Ffindir.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda meysydd holi yr oedd yr aelodau yn dymuno eu harchwilio ymhellach.
5.3 Cytunodd yr Aelodau ar ôl ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, y dylid anfon pryderon y Pwyllgor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.